Orbit360 FAQ
Cefnogi Cydweithiwr Meddygol
Mae'r adnodd hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.
Cyfeiriwch at yr Adnoddau ar yr ochr dde neu’r Cwestiynau Cyffredin isod am ragor o wybodaeth.
Rôl y Cydweithiwr Meddygol Cefnogol (SMC) yn y broses yw helpu'r meddyg i fyfyrio ar ei adborth – yn gadarnhaol ac yn negyddol. Fel Cydweithiwr Meddygol Cefnogol byddwch yn;
- Gwirio'r rhestr o gydweithwyr y mae'r meddyg wedi'u dewis, ac fe ddylech sicrhau bod y rhestr yn cynrychioli cydweithwyr ar draws holl bractis y meddyg
- Bydd adroddiad y meddyg yn cael ei ryddhau i chi i adolygu
- Dylech roi eich adborth i'r meddyg ar yr adroddiad
- Yna, byddwch yn rhyddhau'r adroddiad i'r meddyg
Gallwch, nid oes rheidrwydd i dderbyn y cais.
Dylai'r rhestr o gydweithwyr gynrychioli cydweithwyr ar draws holl waith y meddyg (meddygol, nyrsio, gweinyddol ac ati) cyn cymeradwyo eu rhestr. Unwaith y byddwch wedi cymeradwyo'r rhestr, bydd Orbit360 yn anfon yr holiadur yn awtomatig at y cydweithwyr enwebedig.
Fe allwch;
- Derbyn y rhestr yn ei chyfanrwydd
- Cael gwared ar unigolion yr ystyriwch eu bod yn amhriodol i roi adborth, gan dderbyn y rhestr sy'n weddill
- • Gwrthod y rhestr gyfan a gofyn bod y meddyg yn gwneud diwygiadau
Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i Orbit360, byddwch yn gallu gweld rhestr o'r holl feddygon yr ydych yn gweithredu fel SMC. Byddwch yn gallu gweld y siart cynnydd ar gyfer pob meddyg i fonitro eu dilyniant yn y broses
Os ydych wedi derbyn cais i weithredu fel SMC ond nad ydych bellach yn gallu parhau â'r rôl hon, dylech gysylltu â'r Uned Cymorth Ailddilysu. Yna byddwn yn cefnogi'r meddyg i barhau â'r broses gyda SMC amgen.
Unwaith y bydd y broses adborth wedi'i chwblhau byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost i wirio a rhyddhau'r adroddiad. Dylech fewngofnodi i Orbit360 ac agor yr adroddiad, dylech archwilio'r adborth a phenderfynu a:
- Mae hyn yn adborth da gan bawb
- Mae meysydd bach a allai ddangos anghenion datblygiadol
- Mae llawer o feysydd lle mae'r adborth yn llai na da
- Mae un neu fwy o feysydd y gallai'r adborth beri syndod neu ofid i'r meddyg
- Mae un neu fwy o sylwadau sy'n bersonol, yn ddigywilydd neu'n ddifenwol
Mae'r rhan fwyaf o adroddiadau'n syrthio i'r ddau bwynt cyntaf a gall yr adborth gael ei ryddhau i'r meddyg ar ôl sgwrs fer yn cynnig trafod yr adborth yn ddiweddarach. Dylai'r sgwrs hon ganolbwyntio ar ganfyddiad y meddyg o'r adborth a beth os oes angen gwneud unrhyw ddatblygiadau/newidiadau. Atgoffwch y meddyg i gofnodi eu myfyrdodau yn yr adran briodol o'u cyfrif MARS. Cofiwch fod rhai meddygon yn ofidus os nad ydynt yn sgorio yn y categori uchaf am bopeth ac efallai y cânt eu tramgwyddo neu eu cynhyrfu fel nad ydynt yn cael eu hystyried yn berffaith.
Cewch fwy o arweiniad ar gyfer y swyddogaeth SMC yma.
Os cwblheir adborth yn electronig, bydd nifer yr ymatebion yn cynyddu ac yn dangos ar gyfrif y meddyg ar unwaith (os ydych wedi mewngofnodi ar Orbit360 efallai y bydd angen i chi adnewyddu'r dudalen).
Os yw'r adborth yn cael ei gwblhau ar ffurflen bapur, bydd angen eu dychwelyd i'r uned - gallwch weld y canllawiau ar gyfer y rhan hon o'r broses yma. Mae ffurflenni papur yn cael eu sganio i feddalwedd a fydd yn trosglwyddo'r data i fformat electronig, yna bydd yr RSU yn gwirio bod y data wedi'i drosglwyddo'n gywir. Ein nod yw cwblhau'r broses hon cyn pen 2 ddiwrnod gwaith ar ôl i'r uned dderbyn ffurflenni, ond os derbynnir nifer fawr o ffurflenni yn y Swyddfa, gall gymryd mwy o amser.
Bydd unrhyw feddygon rydych yn gweithredu fel SMC ar eu cyfer, ac yn cael eu 'oedi' yn cael eu tynnu o'ch rhestr 'camau gweithredu SMC'. Ni fyddwch yn gallu gweithredu unrhyw beth tra bod arolygon y meddyg yn cael eu hoedi. Bydd unrhyw ymatebion adborth y mae meddyg wedi eu derbyn gan gydweithwyr neu gleifion yn cael eu cadw yn eu cynnydd.
Unwaith y caiff meddyg ei ailactifadu bydd ei broses yn ailddechrau, bydd yn ymddangos ar eich rhestr SMC a gallwch barhau i gefnogi proses y cydweithiwr/claf.
Yn ogystal â'ch e-bost cyfrif ORBIT, efallai eich bod wedi gweithredu fel SMC ar gyfer meddyg arall gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Efallai y bydd yn well gan rai meddygon gadw'r cyfrifon hyn ar wahân, fodd bynnag, mae Orbit360 yn caniatáu i chi uno'r rhain os yw'n well gennych - gweler 'Rwyf wedi dyblygu cyfrifon Orbit360, sut ydw i'n uno'r rhain?'.
Bydd angen i chi glicio ar y symbol 'person' yn y gornel uchaf ar yr ochr dde o Orbit360 a dewis 'fy nghyfrif'. Gofalwch eich bod wedi mewngofnodi i'r cyfrif rydych am ei gadw.
O dan y pennawd "cyfrif dyblyg gennych?" rhowch y cyfeiriad e-bost ar gyfer y cyfrif rydych am ei uno. Bydd Orbit360 yn chwilio am y cyfrif hwn a bydd neges yn ymddangos. I gadarnhau y dylech wedyn ddewis 'cyflwyno cais cyfuno', yna bydd y cais yn cael ei anfon at y tîm Orbit360 i'w adolygu a'i gymeradwyo – ein nod yw adolygu'r rhain mewn 2 ddiwrnod gwaith.